Croeso i wefan HGCA
HGCA yw is-adran grawnfwydydd a hadau olew’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB). Wedi ei ariannu gan ardoll statudol ar dyfwyr, gwerthwyr a phroseswyr grawnfwydydd a hadau olew yn y Deyrnas Unedig, mae’r HGCA yn derbyn incwm o tua £10 miliwn y flwyddyn.
Codir ardollau gan yr AHDB ar y cnydau grawnfwydydd a hadau olew canlynol a dyfir yn y Deyrnas Unedig: gwenith, haidd, ceirch, rhyg, corn, rhygwenith, siprys, had rêp, had llin, had blodyn yr haul a ffa soia.
Mae HGCA yn cynnal gwaith ymchwil a datblygu, gwybodaeth i’r farchnad, gweithgareddau cadwyn gyflenwi a rhaglenni marchnata defnyddwyr er budd y sector grawnfwydydd a hadau olew.
Ein Gweledigaeth: I greu cadwyn gyflenwi cnydau âr ddeinamig i’r Deyrnas Unedig ble gall pawb elwa o sector gynaliadwy.
Ein Cenhadaeth: I gyflenwi diwydiant âr o safon byd trwy annibyniaeth, arloesi a buddsoddi.
Am ragor o wybodaeth ar weithgareddau HGCA, cliciwch ar y ddewislen tab ar frig y dudalen.
Bwrdd HGCA
Mae Bwrdd yr HGCA yn cynnwys cynrychiolwyr tyfwyr a phroseswyr, ynghyd ag aelod annibynnol a Chadeirydd. Mae Cadeirydd yr HGCA hefyd yn eistedd ar Fwrdd yr AHDB.
Penodir aelodau Bwrdd HGCA gan Gadeirydd yr HGCA a chynrychiolydd neu gynrychiolwyr o Fwrdd yr AHDB trwy system benodi agored. Penodir aelodau i Fwrdd yr HGCA am dymor o dair blynedd.
Mae Bwrdd yr HGCA yn gyfrifol am strategaeth yn y sector grawnfwydydd a hadau olew, ac yn cyflwyno Cynllun Busnes Blynyddol i’r AHDB i’w gyhoeddi yng Nghynllun Corfforaethol yr AHDB. Mae Bwrdd yr HGCA hefyd yn defnyddio ardollau grawnfwydydd a hadau olew i gyflawni ei Gynllun Busnes Sector Blynyddol.